Enghraifft o'r canlynol | hawliau dynol, hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol |
---|---|
Math | hawliau dynol |
Mae'r hawl i fwyd yn un o'r hawliau dynol sy'n diogelu hawl pobl i fwydo eu hunain gydag urddas, gan awgrymu bod digon o fwyd ar gael, bod gan bobl y modd i'w gael, a'i fod yn diwallu anghenion dietegol yr unigolyn yn ddigonol. Mae'n sicrhau'r hawl i fod yn rhydd rhag newyn, ansicrwydd bwyd a diffyg maeth.[1] Nid yw'r hawl i fwyd yn awgrymu bod rhwymedigaeth ar lywodraethau i ddosbarthu bwyd am ddim i bawb sydd ei eisiau, na hawl i gael ei fwydo. Fodd bynnag, os caiff pobl eu hamddifadu o fynediad at fwyd am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, er enghraifft, oherwydd eu bod yn y ddalfa, ar adegau o ryfel neu ar ôl trychinebau naturiol, mae'r hawl yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ddarparu bwyd yn uniongyrchol.[2]
Mae'r hawl yn deillio o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol[2] a oedd â 170 o wladwriaethau yn Ebrill 2020 yn ei gymeradwyo.[3] Mae gwladwriaethau sy'n llofnodi'r cyfamod yma'n cytuno i gymryd camau hyd at yr uchafswm o'u hadnoddau sydd ar gael i gyflawni'n raddol yr hawl i fwyd digonol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.[4][1] Mewn cyfanswm o 106 o wledydd mae'r hawl i fwyd yn berthnasol naill ai trwy drefniadau cyfansoddiadol neu trwy gyfreithiau amrywiol a chytundebau rhyngwladol lle mae'r hawl i fwyd wedi'i ddiogelu.[5]
Yn Uwchgynhadledd Bwyd y Byd 1996, ailddatganodd llywodraethau'r hawl i fwyd ac ymrwymo i haneru nifer y newynog a'r rhai â diffyg maeth o 840 i 420 miliwn erbyn 2015. Fodd bynnag, mae'r nifer wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, yn hytrach na lleihau, gan gyrraedd record (yn 2009) o fwy nag 1 biliwn o bobl sy'n dioddef o ddiffyg maeth ledled y byd.[1] Ar ben hynny, mae'r nifer sy'n dioddef o newyn cudd ee diffyg maeth yn cyfateb i dros 2 biliwn o bobl ledled y byd.[6]
Mae'r Fenter Mesur Hawliau Dynol (The Human Rights Measurement Initiative)[7] yn mesur yr hawl i fwyd mewn gwledydd ledled y byd, yn seiliedig ar lefel eu hincwm.[8]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search